Cafodd ei geni a’i magu yn Sir Gâr, ac mae Ann wedi gwasanaethu fel Cynghorydd Sir dros Landdarog ers 2017, ac fel Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio ers 2021.
Yn gyn-ddarlithydd mewn addysg blynyddoedd cynnar ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac yn gyn-athrawes gerdd peripatetig, mae Ann yn gydberchennog meithrinfa leol i blant ac mae wedi ffermio yn ardal Llanarthne ers 1992. Fe benderfynodd Ann fynd yn AS wedi blynyddoedd o ymgyrchu yn lleol, yn gwasanaethu fel cadeirydd sirol i undeb ffermio, a bu'n llais amlwg yn yr ymgyrch yn erbyn peilonau ar hyd Dyffryn Tywi yn Sir Gaerfyrddin.
Podden och tillhörande omslagsbild på den här sidan tillhör
BBC Radio Cymru. Innehållet i podden är skapat av BBC Radio Cymru och inte av,
eller tillsammans med, Poddtoppen.