Mari Grug James yw un o wynebau mwyaf adnabyddus S4C, mae hi'n gyflwynydd ar Heno a Prynhawn Da.
Wedi’i magu ym Mynachlog-ddu, dechreuodd ei gyrfa gyda rhaglenni plant cyn symud ymlaen i newyddion a chyflwyno. Ers cael diagnosis o ganser y fron yn 2023, mae hi wedi codi ymwybyddiaeth yn ddiflino drwy ei gwaith darlledu, ei rôl fel llysgennad Ymchwil Canser Cymru, a’r podlediad llwyddiannus 1 mewn 2, a enillodd nifer o wobrau.
Yn 2026, cafodd ei hanrhydeddu drwy gael ei dewis yn Llywydd Gŵyl yr Eisteddfod Genedlaethol.
Bydd Mari Grug yn ymuno â ni i sôn am ei gyrfa, ei hymgyrchu, a’i thaith bersonol ryfeddol.
Mae hi hefyd yn dewis 4 cân yn cynnwys O Magnum Mysterium · Côrdydd.
Fe recordiwyd y rhaglen yma cyn ei llwyddiant yn BAFTA Cymru 2026, Mari oedd cyflwynydd gorau'r flwyddyn am y rhaglen Mari Grug: Un Dydd Ar y Tro, sy'n olrhain y cyfnod wedi iddi gael gwybod ei bod â chanser am yr eildro.
Podden och tillhörande omslagsbild på den här sidan tillhör
BBC Radio Cymru. Innehållet i podden är skapat av BBC Radio Cymru och inte av,
eller tillsammans med, Poddtoppen.