Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd.
Gwestai Angharad yn y bennod yma ydy Kevin Davies. Cafodd Kevin ei fagu yn Ninbych y Pysgod yn Sir Benfro. Ar ôl treulio cyfnod yn y fyddin ac yn gweithio dramor, dychwelodd i Gymru. Wedi iddo ymddeol yn 2022 penderfynodd fynd ati i ddysgu’r Gymraeg. Erbyn hyn, mae’n byw ym mhentref Trefgarnowen, Sir Benfro ac yn defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol yn ei ardal. Ers llynedd, mae wedi bod yn gwirfoddoli ar bwyllgor lleol Eisteddfod y Garreg Las ac wedi bod yn rhan ganolog o’r ymgyrch i godi arian tuag at yr Eisteddfod ym mis Awst.
Podden och tillhörande omslagsbild på den här sidan tillhör
BBC Radio Cymru. Innehållet i podden är skapat av BBC Radio Cymru och inte av,
eller tillsammans med, Poddtoppen.