Mae Canolfan S4C Yr Egin mewn cydweithrediad a Menter Bro Dinefwr a Swyddog Rygbi WRU Ysgol Bro Dinefwr yn gyffrous i gyflwyno cyfres o bodlediadau newydd sbon sef ‘Amser TMO’ gan dîm o dan 14 oed Clwb Rygbi Llanymddyfri. Dros yr wythnosau ddiwethaf mae criw brwdfrydig o bobol ifanc o Glwb Rygbi Llanymddyfri wedi ymuno ar-lein i greu cyfres o bodle...
Visa mer
Mae Canolfan S4C Yr Egin mewn cydweithrediad a Menter Bro Dinefwr a Swyddog Rygbi WRU Ysgol Bro Dinefwr yn gyffrous i gyflwyno cyfres o bodlediadau newydd sbon sef ‘Amser TMO’ gan dîm o dan 14 oed Clwb Rygbi Llanymddyfri. Dros yr wythnosau ddiwethaf mae criw brwdfrydig o bobol ifanc o Glwb Rygbi Llanymddyfri wedi ymuno ar-lein i greu cyfres o bodlediadau sy'n cyfweld a phobol adnabyddus a sêr o fewn y byd Rygbi. Mae’r prosiect yma wedi cael ei gyllido gan ‘Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020’, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig wedi bod yn gyfle gwych i'r bobol ifanc ddatblygu sgiliau newydd a chodi hyder o fewn y maes digidol a chyfathrebu gyda rygbi yn uno popeth at ei gilydd.
Podden och tillhörande omslagsbild på den här sidan
tillhör Stiwdiobox. Innehållet i podden är skapat av Stiwdiobox och inte av,
eller tillsammans med, Poddtoppen.